Andy Atkins, Prif Swyddog Gweithredol, A Rocha UK
Mae'r hinsawdd a natur wedi cael eu trin ers tro byd fel materion cwbl ar wahân ac eto mae cysylltiad clir rhwng yr hinsawdd sy'n newid a'r golled enfawr o ran bioamrywiaeth a rhywogaethau. Mae gan eglwysi alwad i ymwneud â phobl ac â'r amgylchedd ehangach - natur wyllt, cynefinoedd, 'systemau naturiol' sy'n ein cynnal ni. Yn gyntaf, oherwydd bod gan Gristnogion fandad i ddiogelu’r Cread, ac mae diraddio amgylcheddol yn mynd yn groes i'r cyfrifoldeb hwnnw. Yn ail, oherwydd bod tarfu ar yr hinsawdd wedi’i achosi gan bobl yn effeithio ar y rhai mwyaf tlawd a bregus yn fyd-eang - mae'n fater o gyfiawnder.
Mae llywodraeth y DU, a fydd yn cynnal trafodaethau hinsawdd hanfodol y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow ym mis Tachwedd eleni, wedi dewis 'atebion sy'n seiliedig ar natur' fel un o'i phum blaenoriaeth. Mae hyn yn arwyddocaol – dyma'r tro cyntaf i 'natur' fod ar y rhestr gyda gostyngiadau mewn allyriadau a chyllid hinsawdd yn y trafodaethau rhyngwladol. Yr hyn sydd y tu ôl i hyn yw bod gwyddonwyr ac economegwyr yn sylweddoli y gallai adfer mathau penodol o natur fod yn rhan bwysig o strategaethau cenedlaethol a rhyngwladol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Gallai gweithgareddau fel adfer gwlyptiroedd, coedwigoedd, glaswelltiroedd, coedwigoedd môr-wiail tanddwr, yn ogystal â newid arferion ffermio a physgota, wneud cyfraniad mawr at 'ddal a storio' carbon – ei echdynnu o'r atmosffer a'i gloi'n ddiogel i’w storio.
Dydyn ni ddim yn sôn am Fasn yr Amazon neu’r Barriff Mawr yn unig: mae cyfle enfawr yn y DU. Cymerwch goedwig môr-wiail er enghraifft. Mae'n tyfu'n naturiol o amgylch sawl rhan o'n harfordir. Mae'n darparu cynefin a bwyd ar gyfer nifer fawr o rywogaethau morol ac mae hyd at 20 gwaith yn fwy effeithiol o ran dal a storio carbon na choedwigoedd ar y tir. Roedd 177 km² o fôr-wiail yn arfer bod oddi ar arfordir Sussex yn unig, ond erbyn 2018 roedd hyn wedi lleihau i ddim ond 6 km² diolch i arferion pysgota niweidiol ymhlith pethau eraill. Erbyn hyn, mae prosiect rhwng Cyngor Sir Gorllewin Sussex ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau (IFCA) yn gweithio i'w adfer, gan greu cynefin ar gyfer hyd at 1000 o rywogaethau morol.
Neu edrychwch ar dir fferm syml. Mae ystâd 2,000 erw yng Ngorllewin Sussex yn edrych ar gynllun i newid y ffordd y maen nhw’n ffermio tir âr. Byddai hyn yn golygu defnyddio cymysgedd o wenith 'treftadaeth', systemau hau newydd a phlanhigion sy'n sefydlogi nitrogen fel meillion o dan gnydau gwenith. Canfu arolwg o'r ystâd yn ddiweddar fod gan gadw deunydd organig pridd o'u systemau cnydio creadigol y potensial i ddal a storio dros 23,000 tunnell o garbon deuocsid.
Mae gan yr Eglwys - enwadau ac eglwysi lleol - rôl i'w chwarae wrth gyflwyno 'atebion sy'n seiliedig ar natur'. Er enghraifft, mae'n berchen ar swm sylweddol o dir yn y DU. Wedi'i reoli yn y ffordd gywir, gallai hyn wneud cyfraniad pwysig at adfer natur a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gyda miloedd o eglwysi lleol a'u mynwentydd ynghyd â ffermydd ac ystadau trefol mawr i gyd yn chwarae eu rhan.
Dyma gyfle cyffrous i'r Eglwys. Er mwyn i'r ddynoliaeth oroesi yn y tymor hir, mae angen i ni fynd i'r afael ag argyfyngau'r hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Mae adnabod a chefnogi sefyllfaoedd sy'n gweithio i'r ddau, boed ym mynwent yr eglwys neu ar raddfa genedlaethol a byd-eang, yn amlwg yn gwneud synnwyr. Yn ogystal, gallai helpu i ddenu mwy o Gristnogion sy’n ceisio mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd i wneud hynny drwy lens natur - sy'n llawer mwy diriaethol a gweladwy yn ein gerddi, ein parciau lleol neu’n mynwentydd.
Fodd bynnag, rhaid taro un nodyn o rybudd: rhaid osgoi troi bodolaeth ac atyniad atebion sy'n seiliedig ar natur yn esgus dros osgoi cymryd camau gweithredu angenrheidiol eraill y mae rhai gwleidyddion a busnesau wedi'u gwrthsefyll ers tro byd. Ym mis Ebrill adroddodd y Gymdeithas Ynni Ryngwladol fod angen i'r byd bellach leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 45% yn ystod y degawd nesaf, er mwyn cadw at amcan Cytundeb Paris 2015 i osgoi cynnydd o fwy nag 1.5 gradd yn y tymheredd uwchlaw'r cyfartaledd cyn-ddiwydiannol. Llosgi tanwydd ffosil yw'r ffynhonnell unigol fwyaf o hyd o allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Felly, er mor gyffrous a defnyddiol yw atebion sy'n seiliedig ar natur i amsugno carbon, mae'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i gymdeithas a gwleidyddion symud ein heconomïau oddi ar danwydd ffosil ac at ynni adnewyddadwy, tra'n rhoi'r atebion hyn sy'n seiliedig ar natur ar waith hefyd.
Comentarios