top of page
Search

Hinsawdd a Chyllid

Buddsoddiad eglwysig ar gyfer adferiad cyfiawn a gwyrdd


Mae Bokani Tshidzu yn Swyddog Ymgyrch Bright Now yn Operation Noah.


‘Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.’ (Mathew 6:21, Beibl.net)




Mae natur frys yr argyfwng hinsawdd wedi cynyddu ac mae'n gofyn am ymateb cymesur. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol a chyfiawn yw dadfuddsoddi (tynnu’n harian) oddi wrth gwmnïau tanwydd ffosil. O ystyried bod cwmnïau olew a nwy yn parhau i fwydo'r argyfwng hinsawdd, mae'n anfoesegol parhau i elwa o'u harferion busnes niweidiol.


Mae dadfuddosddi o danwydd ffosil yn rheidrwydd moesol. Mae canlyniadau'r argyfwng hinsawdd yn effeithio'n anghymesur ar y tlotaf a'r mwyaf bregus. Ydyn ni'n clywed gwaedd y ddaear a gwaedd y tlodion? Rhaid i fuddsoddiadau eglwysig gael eu halinio â'n gwerthoedd; rhaid i'n ffydd ein harwain i weithredu.


Y llynedd (2020), argymhellodd y Fatican am y tro cyntaf y dylid dadfuddsoddi. Mae llawer o Eglwysi wedi dadfuddsoddi’n llawn o danwydd ffosil, gan gynnwys y Crynwyr ym Mhrydain, Eglwys Iwerddon a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Yn 2020, ymrwymodd 50 o sefydliadau ffydd y DU i ddadfuddsoddi o danwydd ffosil. Mae'r rhain yn gamau proffwydol sy'n goleuo’r ffordd i eraill ei dilyn.


Mae pob cwmni olew mawr yn herio Cytundeb Paris yn hytrach na chydymffurfio ag ef. Tra’n honni eu bod yn cefnogi Cytundeb Paris, mae cwmnïau olew a nwy yn parhau i lobïo yn erbyn gweithredu ar yr hinsawdd ac yn cynllunio cynnydd mewn chwilio am ac echdynnu tanwydd ffosil. Mae hyn er gwaethaf y ffaith, os ydym am atal effeithiau trychinebus pellach yn yr hinsawdd, bod rhaid i'r mwyafrif helaeth o'r cronfeydd tanwydd ffosil hysbys aros yn y ddaear. Mae angen i eglwysi hefyd gefnogi adferiad cyfiawn a gwyrdd o effeithiau'r pandemig trwy fuddsoddi yn nhechnoleg lân y dyfodol.


Weithiau gall ymddangos fel pe bai'r camau a gymerwn ar lefel unigol megis un diferyn bach yn y môr. Mae dadfudsoddi yn gam strategol ac ymarferol sy'n cael effaith ar y lefel strwythurol. Fel y mae cwmnïau olew mawr eu hunain wedi cydnabod, mae dadfudsoddi yn ei gwneud hi'n ddrutach codi arian i barhau i chwilio am ac echdynnu cronfeydd tanwydd ffosil newydd. Trwy gael gwared ar ganiatâd cymdeithasol i’r cwmnïau tanwydd ffosil, mae dadfudsoddi yn cynyddu'r pwysau ar lywodraethau i gyflwyno deddfwriaeth sy'n torri'r galw am danwydd ffosil ymhellach.


Hefyd, dadfuddsoddi yw'r dewis darbodus yn ariannol i amddiffyn buddsoddiadau o ystyried y risg o asedau’n troi’n ddiwerth, yn ogystal â'r toriadau i ddifidendau a welwyd y llynedd am y tro cyntaf mewn tri degawd. Mae costau ynni adnewyddadwy yn disgyn, a mae technolegau glân eraill yn datblygu, gan fygwth y galw am danwydd ffosil a darparu cyfleoedd i Eglwysi fuddsoddi mewn dyfodol di-garbon a rhoi eu harian lle mae eu calon.


Gweler ein hadnodd diweddaraf yma i archwilio thema Hinsawdd a Chyllid mewn gweddi, mewn ymrwymiad i weithredu ac ymuno ag eraill i alw am ddefnydd moesegol o adnoddau ariannol.


Adnoddau a gweminarau defnyddiol:


Cyfeiriadau:

Comentarios


bottom of page